LLETY
PARC GWLEDIG
HENBLAS




Wedi'u lleoli yn ein ffermdy rhestredig Gradd II, mae deg ystafell wely moethus ar gael, gan gynnwys ein hystafell briodas drawiadol. Mae gan bob ystafell thema unigryw gydag addurniadau chwaethus, gosodiadau a ffitiadau syfrdanol, ynghyd â deunyddiau ymolchi moethus a lleol. Yn yr ystafell briodasol, gallwch fwynhau golygfeydd ar draws y mynyddoedd wrth socian yn ein bath crwn hyfryd. Gellir trefnu llety ychwanegol ar ffurf ‘glampio’ ar ein cae cyfagos, ynghyd â chawodydd a thoiledau. Bydd ein gwesteion i gyd yn gallu mwynhau gwledd Gymreig lawn yn ein hystafell frecwast hardd.
​
-
Defnydd preifat
-
Tri lleoliad seremoni syfrdanol gan gynnwys lleoliad awyr agored
-
Golygfeydd o fynyddoedd a thir fferm
-
Seddau i 20 hyd at 160 o westeion
-
Llety dros nos gyda brecwast yn ein stablau rhestredig Gradd II ar gyfer hyd at 24 o bobl
-
Dewis o dri arlwywr eithriadol
-
Cydlynydd ymroddedig, profiadol fydd gyda chi drwyddi draw

Yr Ysgubor
Mae ail-osod yr hen bren o'r ysgubor wreiddiol wedi creu swyn gwladaidd yn yr ystafell wely hon. Mae pob darn o bren wedi hindreulio'n unigryw o ganlyniad i'w leoliad ar yr hen ysgubor.
Yn ystod y 19eg ganrif, defnyddiwd y rhan hon o’r adeilad fel stablau ar gyfer ceffylau Henblas ac anifeiliad eraill. Fe wnaeth yr adeilad barhau fel stablau hyd at ganol y 19eg ganrif cyn dod yn barc antur i blant ar ddiwedd y ganrif.
Yr Ystafell
Briodasol
Yng nghanol y 1800au, defnyddiwyd y rhan hon o'r adeilad fel stablau ar gyfer ceffylau Henblas ac ar gyfer da byw. Mae'r holl drawstiau nenfwd yn rhan wreiddiol o'r adeilad, gan ychwanegu pren llongddrylliad uwchben yr ardal eistedd.
Daethpwyd o hyd i hwn yn wreiddiol yn yr efail ond bu’n rhaid ei symud yn ystod yr adnewyddiadau. Cafwyd hyd i'r olwyn fawr yn yr efail heyfd, ac mae wedi'i hongian i'n hatgoffa o hanes yr adeilad.



Yr Hen Siop
Anrhegion
Enwyd yr Hen Siop Anrhegion ar ôl ei chyfnod fel parc antur i blant ar ddiwedd y 1990au. Byddai'r gwesteion i gyd wedi pasio trwy'r ystafell hon oedd yn cael ei ddefnyddio fel y brif fynedfa ac allanfa i'r parc.
Mae pob darn o bren wedi hindreulio'n unigryw o ganlyniad i'w leoliad ar yr hen ysgubor. Mae ail-osod yr hen bren o'r ysgubor wreiddiol wedi creu swyn gwladaidd yn yr ystafell wely hon. Yn ystod y 19eg ganrif, defnyddiwd y rhan hon o’r adeilad fel stablau ar gyfer ceffylau Henblas ac anifeiliad eraill.
Yr Efail
Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd yr hen sied drol yn gartref i weithdy’r gof lleol. Yn ystod y gwaith adnewyddu, daethom o hyd i nifer o bedolau a gwaith haearn sydd bellach wedi’u harddangos o amgylch yr ystafell.
Ar un adeg, roedd gatiau haearn mawr yn hongian o’r bwâu calchfaen anarferol ym mlaen yr ystafell wely er mwyn diogelu’r gweithdy.
Daethom o hyd i nifer o drawstiau llongddrylliadau o ddechrau’r 19eg ganrif yn yr ystafell hon hefyd, ond yn anffodus cawsant eu hailosod mewn ystafelloedd eraill o ganlyniad i’w dirywiad.



Yr Ystafell Werdd
Ar un adeg, roedd yr Ystafell Werdd yn gartref i ganolfan celf a chrefft, rhan annatod o’r parc antur ar ddiwedd y 1990au. Roedd lliw gwyrdd ofnadwy ar y waliau felly fe wnaethon ni ddiweddaru’r lliw i greu golwg llawer mwy modern!
Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yng nghanol y 19eg ganrif fel iard stabl, ac roedd yr adeilad yn gartref i geffylau a da byw Henblas tan ddechrau'r 20fed ganrif.
Yr Ystafell Grefftau
Roedd yr Ystafell Grefftau yn gartref i ganolfan celf a chrefft, rhan annatod o’r parc antur ar ddiwedd y 20fed ganrif.
Roedd murlun coed enfawr yn gorchuddio’r wal gyfan, gan ymgorffori tonnau unigryw'r wal yn y dyluniad. Mae rhan fach o'r murlun hwn i'w weld yn yr atig hyd heddiw.
