PRIODASAU
PARC GWLEDIG
HENBLAS
Y LLEOLIAD
PARC GWLEDIG
HENBLAS




Wedi'i leoli yng nghanol cefn gwlad Cymru, Parc Gwledig Hen Blas yw’r lleoliad perffaith ar gyfer y diwrnod o’ch breuddwydion. Wedi'i adeiladu ym 1811 ac yn cuddio ymhlith 77 erw o dir fferm ar Ynys Môn, mae gan y lleoliad teuluol hwn olygfeydd syfrdanol ar draws mynyddoedd Eryri.
Wedi'i adnewyddu'n ddiweddar a gyda llety ar y safle, mae ein fferm yn rhestredig i Radd II a'n hadeiladau moethus yn lleoliad perffaith ar gyfer pob agwedd o’ch diwrnod arbennig.
Rydym yn lleoliad defnydd unigryw, sy'n eich galluogi i ddefnyddio pob modfedd o'r tir i fwynhau diodydd, cerddoriaeth ac i ddod o hyd i'r cefndir perffaith ar gyfer eich lluniau.
Bydd ein cydgysylltwyr ymroddedig a phrofiadol yn tynnu’r straen a’r drafferth allan o drefnu eich diwrnod, gan ganiatáu i chi deimlo fel gwestai yn eich priodas eich hun.
Y SEREMONI
PARC GWLEDIG
HENBLAS








Gyda thrwydded ar gyfer seremonïau sifil, dewiswch un o'n lleoliadau syfrdanol.
Yr Oriel Gwyn
Yn eistedd hyd at 160 o westeion ac wedi'u leinio â chanhwyllyr, mae gan y gofod hyfryd llachar ac awyrog hwn olygfeydd syfrdanol ar draws y mynyddoedd.
Yr Ystafell Frecwast
Gyda'i le tân gwreiddiol, mae'r ystafell hon yn berffaith ar gyfer priodasau gaeafol clyd. Mae’n eistedd hyd at 60 o westeion.
Wrth ochr y Dwr
Mae’r gofod awyr agored hwn yn bodoli ymysg y blodau gwyllt sydd o amgylch glan y dwr. Mae’n eistedd hyd at 160 o westeion ac ar gael rhwng mis Ebrill a mis Medi.
BWYTA
PARC GWLEDIG
HENBLAS




Os ydych chi'n cynllunio digwyddiad bach rhamantaidd neu achlysur mawreddog, gall ein lleoliad defnydd unigryw eistedd rhwng 20 a 160 o westeion yn gyfforddus. Eisteddwch wrth y bwrdd yn ein neuadd ddawns sydd wedi’i llenwi gyda chanhwyllyr.
Ar gyfer eich brecwast priodas, mae gennych chi’r rhyddid i greu eich bwydlen personol eich hun wrth drafod gydag un o'n tri arlwywr eithriadol.
Mae gan ein bar gynhyrchion lleol yn ogystal â'r holl frandiau y byddech chi'n disgwyl dod o hyd iddyn nhw.
PARATOI
PARC GWLEDIG
HENBLAS




Rydym yn cynnig y defnydd o’n hystafell baratoi priodasol ar gyfer bore'r briodas, ynghyd ag ystafell gawod, sychwyr gwallt, ystafell newid ar wahân, ac oergell gyda Prosecco i ddechrau'r diwrnod fel rydych chi'n bwriadu mynd ymlaen!
























